Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 3
Mai 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan Weinidog yr Economi: Mesurau Rheoli Ffin
(30 munud)
4 Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin
(30 munud)
5 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Presenoldeb Ysgol
(30 munud)
6 Dadl: Hawliau Dynol
(60 munud)
NDM7991 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gryfhau a hyrwyddo hawliau dynol, cydraddoldeb a diogelu cymunedau lleiafrifol yng Nghymru.
2. Yn nodi â phryder difrifol y symudiadau mynych gan Lywodraeth y DU i leihau hawliau dynol.
3. Yn credu bod cynigion Llywodraeth y DU i ddiddymu'r Ddeddf Hawliau Dynol yn tanseilio amddiffyniadau allweddol i ddinasyddion ac yn codi materion cyfansoddiadol sylweddol.
4. Yn credu bod Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd yn tanseilio hawliau cymunedau lleiafrifol ac yn peryglu'r hawl i brotestio’n gyfreithlon ac yn heddychlon.
5. Yn cytuno â Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig y byddai'r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau yn tanseilio'n ddifrifol y broses o ddiogelu hawliau dynol ac yn arwain at ymyriadau difrifol â hawliau dynol.
6. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi ei dull o ymdrin â Hawliau Dynol, sy’n gam yn ôl, a'r tramgwyddo’n erbyn y cyfansoddiad yn sgil hynny.
Diwygio’r Ddeddf Hawliau Dynol: Mesur Hawliau Modern (Saesneg yn unig)
Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (Saesneg yn unig)
Y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau (Saesneg yn unig)
Cyd-gyflwynwyr
Sian
Gwenllian (Arfon)
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddiogelu a chynnal hawliau dynol.
2. Yn nodi cynigion Llywodraeth y DU i foderneiddio a gwneud deddfwriaeth hawliau dynol yn addas i'r diben.
3. Yn credu bod angen cydbwysedd priodol rhwng hawliau a chyfrifoldebau unigol.
4. Yn gresynu at record Llywodraeth Cymru o bleidleisio yn erbyn hawliau dynol gan gynnwys pleidleisio yn erbyn cyflwyno Bil hawliau pobl hŷn yn ystod y Pumed Senedd.
7 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 4 Mai 2022